Canllaw Mynediad i Gangen Swyddfa'r Post
Fel busnes sy'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth gwych i gwsmeriaid, rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod y 12 miliwn o bobl anabl sy'n byw ac yn gweithio yn y DU yn gallu cael mynediad i'w cangen leol o Swyddfa'r Post. Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn, mae Swyddfa'r Post Cyf, Ffederasiwn Cenedlaethol yr Is-bostfeistri a'n holl Asiantau wedi bod yn gweithio ar y cyd i gyflawni ein cyfrifoldebau perthnasol o dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd.
Wrth lansio'r canllaw mynediad newydd hwn i'n canghennau rydym wedi mynd ati i roi gwybodaeth ymarferol i gwsmeriaid ar gael mynediad i'n rhwydwaith manwerthu.
Mae ein henw da am gynnig gwasanaeth rhagorol i'n cwsmeriaid anabl a diamddiffyn yn ein galluogi i ddangos ein bod yn gweithredu'r rhwydwaith manwerthu prysuraf a mwyaf cyrraeddadwy yn y DU.